Rheoliadau Drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 14D(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

2013 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012 yn ei gwneud yn ofynnol bod pob awdurdod bilio yng Nghymru yn gwneud cynllun (cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor) sy’n pennu’r gostyngiadau a gymhwysir i’r symiau o dreth gyngor a fydd yn daladwy gan bersonau, neu ddosbarthiadau o bersonau, yr ystyrir eu bod mewn angen yn ariannol. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012 yn rhagnodi cynllun (y cynllun diofyn) a fydd yn cael effaith os bydd awdurdod bilio wedi methu â gwneud cynllun ei hunan ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 14A i 14C o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992, ac maent yn darparu ar gyfer creu troseddau ac ar gyfer pwerau i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol ac i osod cosbau mewn cysylltiad â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor a’r cynllun diofyn.

Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdodo bilio roi awdurdodiad i unigolyn i arfer y pwerau a roddir i swyddog awdurdodedig o dan reoliadau 4 a 5.

Mae rheoliad 4 yn galluogi swyddogion a awdurdodir o dan reoliad 3 ei gwneud yn ofynnol i bersonau penodedig ddarparu gwybodaeth at y diben o atal a darganfod troseddau, a sicrhau tystiolaeth o gyflawni troseddau mewn cysylltiad â chais am ostyngiad, neu ddyfarniad o ostyngiad, o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn.

Mae rheoliad 5 yn galluogi awdurdod bilio ei gwneud yn ofynnol bod y personau a bennir yn rheoliad 4(4) yn ymuno mewn trefniadau a fydd yn caniatáu i swyddogion awdurdodedig gael mynediad at gofnodion electronig. Ceir gwneud yn ofynnol ymuno mewn trefniadau o’r fath os yw’n ymddangos i awdurdod bilio fod cyfleusterau’n bodoli sy’n darparu, neu a allai ddarparu mynediad i’r cofnodion hynny, a bod y cofnodion yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys gwybodaeth am fater sy’n berthnasol i’r diben o atal a darganfod troseddau, a sicrhau tystiolaeth o gyflawni troseddau mewn cysylltiad â chais am ostyngiad, neu ddyfarniad o ostyngiad, o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn.

Mae rheoliad 6 yn darparu ei bod yn drosedd rhwystro swyddog awdurdodedig, neu beri yn fwriadol iddo oedi, rhag arfer unrhyw bŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol o dan reoliad 4 neu 5. Cyflawnir trosedd hefyd os yw person yn gwrthod neu’n methu â chydymffurfio (heb esgus rhesymol) â gofyniad i ymuno mewn trefniadau i gael mynediad at gofnodion electronig o dan reoliad 5, neu ddarparu gwybodaeth os gofynnir iddo wneud hynny o dan reoliad 4.

Mae rheoliad 7 yn pennu y cyflawnir trosedd os yw person yn gwneud datganiad neu sylw y gŵyr y person hwnnw ei fod yn ffug, at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn. Mae’n drosedd hefyd ddarparu, neu beri neu ganiatáu’n ymwybodol ddarparu, dogfen neu wybodaeth ffug at y diben hwnnw.

Mae rheoliad 8 yn pennu y cyflawnir trosedd os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau, y gŵyr person ei fod yn effeithio ar ei hawl i ostyngiad, a’r person hwnnw yn methu â rhoi hysbysiad o’r newid fel sy’n ofynnol o dan gynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn. Mae’n pennu hefyd ei bod yn drosedd peri neu ganiatáu i berson arall fethu â rhoi hysbysiad o’r fath.

Mae rheoliad 9 yn pennu y cyflawnir trosedd os yw person, yn anonest, yn gwneud datganiad neu sylw ffug at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn. Mae’n drosedd hefyd ddarparu, neu beri neu ganiatáu darparu,  yn anonest, ddogfen neu wybodaeth ffug at y diben hwnnw.

Mae rheoliad 10 yn pennu y cyflawnir trosedd os digwydd unrhyw newid yn yr amgylchiadau, y gŵyr person ei fod yn effeithio ar ei hawl i ostyngiad, a’r person hwnnw, yn anonest,  yn methu â rhoi hysbysiad o’r newid fel sy’n ofynnol o dan gynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn. Mae’n pennu hefyd ei bod yn drosedd peri neu ganiatáu, yn anonest, i berson arall fethu â rhoi hysbysiad o’r fath.

Mae rheoliad 11 yn gwneud darpariaeth ar gyfer troseddau o dan y Rheoliadau a gyflawnir gan gyrff corfforaethol.

Mae rheoliad 12 yn pennu’r terfyn amser ar gyfer cychwyn achos am drosedd o dan y Rheoliadau.

Mae rheoliadau 13 i 15 yn galluogi awdurdod bilio i wahodd person i gytuno i dalu cosb yn hytrach na chael ei erlyn am drosedd ynglŷn â dyfarnu gostyngiad nad oedd hawl gan y person hwnnw i’w gael o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, neu drosedd sy’n ymwneud â gweithred neu anwaith a allai fod wedi arwain at ddyfarniad o’r fath.

Mae rheoliadau 16 a 17 yn galluogi awdurdod bilio i osod cosb o £70 ar berson, mewn amgylchiadau megis pan fo person, drwy esgeulustod, yn gwneud datganiad anghywir mewn cysylltiad â chais am ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu’r cynllun diofyn, neu pan fo person yn methu â hysbysu ynghylch newid amgylchiadau pan fo’n ofynnol gwneud hynny o dan gynllun o’r fath.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o’r asesiad gan yr Is-adran Cyllid Llywodraeth Leol a Pherfformiad Gwasanaethau Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Rheoliadau Drafft a osodir gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 14D(3) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992.

2013 Rhif (Cy. )

TRETH GYNGOR, CYMRU

Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013

Gwnaed                                                 ***

Yn dod i rym yn unol â rheoliad 1

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 14A, 14B, 14C ac 113(1) a (2) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992([1]).

Yn unol ag adran 14D(3) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a chymeradwywyd ef drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Darganfod Twyll a Gorfodi) (Cymru) 2013.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym drannoeth y diwrnod y’u gwneir.

(3) Mae rheoliadau 7 a 9 yn dod i rym 14 diwrnod ar ôl y diwrnod y gwneir y Rheoliadau hyn.

(4) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Dehongli

2.(1)(1) Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “cais” (“application”) yw cais am ostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

ystyr “y Cynllun Diofyn” (“the Default Scheme”) yw’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2012([2]);

ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wnaed gan awdurdod bilio yn unol â’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu gynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn unol â pharagraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “Deddf 1992” (“the 1992 Act”) yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992;

ystyr “y Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau” (“the Contributions and Benefits Act”) yw Deddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992([3]);

ystyr “y Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig” (“the Prescribed Requirements Regulations”) yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2012([4]);

ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person sy’n gweithredu yn unol ag unrhyw awdurdodiad at ddibenion y Rheoliadau hyn sydd am y tro mewn grym mewn perthynas â’r person hwnnw;

ystyr “trosedd treth gyngor” (“council tax offence”) yw—

(a)     unrhyw drosedd mewn cysylltiad â gwneud cais;

(b)     unrhyw drosedd mewn cysylltiad â dyfarnu gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

(c)     unrhyw drosedd a gyflawnir at y diben o hwyluso cyflawni trosedd (boed hynny gan yr un person ai peidio) o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b);

(d)     unrhyw ymgais neu gynllwyn i gyflawni trosedd o’r math y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) neu (b).

(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)     mae cyfeiriadau at ddogfen yn cynnwys cyfeiriadau at unrhyw beth y cofnodir gwybodaeth ynddo, mewn ffurf electronig neu unrhyw ffurf arall;

(b)     rhaid ystyried bod y gofyniad bod swyddog awdurdodedig yn rhoi hysbysiad mewn ysgrifen wedi ei gyflawni mewn unrhyw achos pan fo’r hyn sy’n gynwysedig yn yr hysbysiad

                           (i)    wedi ei drawsyrru i dderbynnydd yr hysbysiad drwy ddull electronig; a

                         (ii)    wedi ei gael gan y derbynnydd mewn ffurf sy’n ddarllenadwy ac y gellir ei gofnodi ar gyfer cyfeirio ato yn y dyfodol.

Awdurdodiadau gan awdurdodau bilio

3.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), caiff awdurdod bilio roi awdurdodiad i unigolyn i arfer y pwerau a roddir i swyddog awdurdodedig o dan reoliadau 4 a 5.

(2) Ni chaiff awdurdod bilio roi awdurdodiad i unigolyn onid yw’r unigolyn hwnnw—

(a)     wedi ei gyflogi i arfer swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor gan yr awdurdod hwnnw;

(b)     wedi ei gyflogi i arfer swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor gan awdurdod bilio arall neu gyd-bwyllgor sy’n cyflawni swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor ar ran yr awdurdod hwnnw; neu

(c)     wedi ei gyflogi i arfer swyddogaethau mewn perthynas â chynlluniau gostyngiadau’r dreth gyngor gan berson a awdurdodwyd o dan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Contractio Allan o Swyddogaethau Bilio, Casglu a Gorfodi'r Dreth) 1996([5]) gan—

                           (i)    yr awdurdod dan sylw; neu

                         (ii)    unrhyw awdurdod o’r math a grybwyllir yn is-baragraff (b).

(3) O ran awdurdodiad a roddir i unigolyn at ddibenion y Rheoliadau hyn—

(a)     rhaid iddo fod mewn ysgrifen ac wedi ei ddarparu i’r unigolyn hwnnw fel tystiolaeth o hawl yr unigolyn hwnnw i arfer pwerau a roddir o dan y Rheoliadau hyn;

(b)     caiff gynnwys darpariaeth ynglŷn â’r cyfnod y bydd yr awdurdodiad yn cael effaith; ac

(c)     caiff gyfyngu ar y pwerau sy’n arferadwy yn rhinwedd yr awdurdodiad, drwy wahardd eu harfer ac eithrio ar gyfer dibenion penodol neu mewn amgylchiadau penodol.

(4) Ceir tynnu awdurdodiad yn ôl ar unrhyw adeg, mewn ysgrifen gan yr awdurdod a’i rhoddodd.

(5) Rhaid i awdurdodiad ysgrifenedig, neu dynnu’n ôl awdurdodiad ysgrifenedig, gan awdurdod bilio gael ei ddyroddi o dan lofnod naill ai

(a)     y swyddog a ddynodwyd o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989([6]) fel pennaeth gwasanaeth cyflogedig yr awdurdod; neu

(b)     y swyddog sy’n brif swyddog cyllid yr awdurdod (yn yr ystyr a roddir i “chief finance officer” yn adran 5(8) o’r Ddeddf honno).

(6) Nid oes hawl gan unigolyn, a awdurdodir at ddibenion rheoliad 4, i arfer y pwerau a roddir gan y rheoliad hwnnw, ac eithrio at y diben o atal, darganfod a sicrhau tystiolaeth ynghylch cyflawni trosedd treth gyngor (boed hynny gan bersonau penodol neu’n fwy cyffredinol).

(7) Nid oes hawl gan swyddog awdurdodedig i gael gwybodaeth yn unol â threfniadau yr ymunir ynddynt o dan reoliad 5 oni fydd awdurdodiad y swyddog hwnnw’n datgan bod ei awdurdodiad yn gymwys at ddibenion y rheoliad hwnnw.

(8) Nid oes dim yn y rheoliad hwn, wrth roi unrhyw bŵer i swyddog awdurdodedig, sydd yn ei gwneud yn ofynnol i beidio ag arfer y pŵer hwnnw ac eithrio mewn achosion pan weinyddir y cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor gan yr un awdurdod a roddodd ei awdurdodiad i’r swyddog hwnnw.

Pŵer i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol

4.(1)(1) Yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), caiff swyddog awdurdodedig, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol bod person yn darparu’r cyfan o’r cyfryw wybodaeth a ddisgrifir yn yr hysbysiad ac sydd ym meddiant y person hwnnw neu’n wybodaeth y mae gan y person hwnnw fynediad ati ac y mae’n rhesymol i’r swyddog awdurdodedig ofyn amdani at y diben a ddisgrifir yn rheoliad 3(6).

(2) Yr amgylchiadau yw bod gan y swyddog awdurdodedig sail resymol dros amau bod y person—

(a)     yn berson sy’n dod o fewn paragraff (3) neu (4); a

(b)     bod ganddo, neu y gall fod ganddo yn ei feddiant, neu fod ganddo fynediad at, unrhyw wybodaeth am unrhyw fater sy’n berthnasol i’r diben a ddisgrifir yn rheoliad 3(6).

(3) Y personau sy’n dod o fewn y paragraff hwn yw—

(a)     unrhyw berson sydd, neu sydd wedi bod, yn gyflogwr neu’n gyflogai, yn yr ystyron a roddir i “employer” neu “employee”, yn eu trefn, mewn unrhyw ddarpariaeth a wneir gan, neu o dan, y Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau;

(b)     unrhyw berson sydd, neu sydd wedi bod, yn enillydd hunangyflogedig yn yr ystyr a roddir i “self-employed earner” mewn unrhyw ddarpariaeth o’r fath;

(c)     unrhyw berson, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth a wnaed gan neu o dan y Ddeddf honno, sydd neu a oedd yn berson sydd i’w drin at ddibenion unrhyw ddarpariaeth o’r fath fel person o fewn is-baragraff (a) neu (b);

(d)     unrhyw berson sy’n cynnal, neu a fu’n cynnal, unrhyw fusnes sy’n cynnwys cyflenwi nwyddau ar gyfer eu gwerthu i’r defnyddwyr olaf gan unigolion nad ydynt yn cynnal busnesau manwerthu o fangreoedd manwerthu;

(e)     unrhyw berson sy’n cynnal, neu a fu’n cynnal, unrhyw fusnes sy’n cynnwys cyflenwi nwyddau neu wasanaethau drwy ddefnyddio gwaith a wneir neu wasanaethau a gyflawnir gan bersonau ac eithrio cyflogeion y person hwnnw;

(f)      unrhyw berson sy’n cynnal, neu a fu’n cynnal, asiantaeth neu fusnes arall ar gyfer cyflwyno neu gyflenwi, i bersonau sy’n gofyn amdanynt, bersonau sydd ar gael i wneud gwaith neu gyflawni gwasanaethau;

(g)     unrhyw awdurdod lleol sy’n gweithredu yn rhinwedd ei rôl fel awdurdod sy’n gyfrifol am roi unrhyw drwydded;

(h)     unrhyw berson sydd, neu a fu, yn ymddiriedolwr neu’n rheolwr cynllun pensiwn personol neu alwedigaethol;

(i)      gweision ac asiantwyr unrhyw un o’r personau a bennir mewn unrhyw un o’r is-baragraffau (a) i (h).

(4) Y personau sy’n dod o fewn y paragraff hwn yw—

(a)     unrhyw fanc;

(b)     y Cyfarwyddwr Cynilion a benodir o dan adran 1(1) o Ddeddf y Ddyled Wladol 1972([7]);

(c)     unrhyw berson sy’n cynnal busnes y mae’r cyfan neu ran sylweddol ohono yn cynnwys darparu credyd (boed sicredig neu ansicredig) i aelodau o’r cyhoedd;

(d)     unrhyw yswiriwr;

(e)     unrhyw berson sy’n cynnal busnes y mae’r cyfan neu ran sylweddol ohono yn cynnwys darparu i aelodau o’r cyhoedd wasanaeth ar gyfer trosglwyddo arian o le i le;

(f)       unrhyw ymgymerwr dŵr neu ymgymerwr carthffosiaeth;

(g)     unrhyw berson sy’n ddeiliad—

                           (i)    trwydded o dan adran 7 o Ddeddf Nwy 1986([8]) i gludo nwy drwy bibellau, neu

                         (ii)    trwydded o dan adran 7A(1) o’r Ddeddf honno([9]) i gyflenwi nwy drwy bibellau;

(h)     unrhyw berson sy’n dosbarthu neu’n cyflenwi trydan (o fewn yr ystyron a roddir i “distribute” a “supply”, yn eu trefn, yn Neddf Trydan 1989([10]));

(i)      unrhyw berson sy’n cynnal unrhyw gorff neu sefydliad addysgol;

(j)      unrhyw gorff y mae darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â derbyniadau i gyrff neu sefydliadau addysgol yn brif weithgaredd iddo;

(k)     y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr;

(l)      unrhyw was neu asiant i berson a grybwyllir yn is-baragraffau (a) i (k).

(5) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol y rheoliad hwn, mae’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn i swyddog awdurdodedig, i’w gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth, yn rhinwedd cynnwys y person hwnnw ym mharagraff (4), yn arferadwy, yn unig, at y diben o gael gwybodaeth mewn perthynas â pherson penodol a ddynodir (wrth ei enw neu ei ddisgrifiad) gan y swyddog.

(6) Ni chaiff swyddog awdurdodedig, wrth arfer y pwerau hynny, ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson ddarparu unrhyw wybodaeth, yn rhinwedd cynnwys y person hwnnw ym mharagraff (4), onid yw’n ymddangos i’r swyddog hwnnw fod seiliau rhesymol dros gredu bod y person dynodedig y mae’r gofyniad yn ymwneud ag ef—

(a)     yn berson sydd wedi cyflawni, yn cyflawni, neu’n bwriadu cyflawni trosedd treth gyngor;

(b)     yn berson sy’n aelod o deulu person sy’n dod o fewn is-baragraff (a); neu

(c)     os yw’r person sy’n dod o fewn is-baragraff (a) mewn priodas aml-gymar, unrhyw bartner i’r person hwnnw.

(7) Ni ellir cyflawni rhwymedigaeth person i ddarparu gwybodaeth yn unol â hysbysiad o dan y rheoliad hwn, ac eithrio drwy ddarparu’r wybodaeth honno o fewn y cyfryw amser rhesymol ac yn y cyfryw ffurf a bennir yn yr hysbysiad, i’r swyddog awdurdodedig

(a)     a enwyd gan, neu’n unol â thelerau’r hysbysiad; neu

(b)     a enwyd, ar ôl rhoi’r hysbysiad, mewn hysbysiad ysgrifenedig diweddarach a roddwyd gan y swyddog awdurdodedig a osododd y gofyniad gwreiddiol neu gan swyddog awdurdodedig arall.

(8) Mae pŵer swyddog awdurdodedig i wneud darparu gwybodaeth yn ofynnol o dan y rheoliad hwn yn cynnwys pŵer i wneud dangos ac ildio meddiant o unrhyw ddogfennau yn ofynnol sy’n cynnwys yr wybodaeth a bennir neu a ddisgrifir yn yr hysbysiad sy’n gosod y gofyniad, a phan fo angen, ei gwneud yn ofynnol creu’r cyfryw ddogfennau, neu gopïau neu ddyfyniadau ohonynt.

(9) O dan y rheoliad hwn, ni cheir ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw berson yn darparu—

(a)     unrhyw wybodaeth (boed ar ffurf dogfen ai peidio) sy’n tueddu i argyhuddo’r person hwnnw, neu, yn achos person priod neu berson sy’n bartner sifil, priod neu bartner sifil y person hwnnw; neu

(b)     unrhyw wybodaeth (boed ar ffurf dogfen ai peidio) y byddai hawliad o fraint broffesiynol gyfreithiol mewn perthynas â hi yn debygol o lwyddo mewn unrhyw achos llys.

(10) Mae’r pwerau a roddir gan y rheoliad hwn yn arferadwy mewn perthynas â phersonau sy’n dal swydd o dan y Goron a phersonau yng ngwasanaeth y Goron, fel y maent yn arferadwy mewn perthynas â phersonau eraill.

(11) Yn y rheoliad hwn—

ystyr “banc” (“bank”) yw—

(a)     person sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000([11]) i dderbyn adneuon;

(b)     ffyrm AEE, yn yr ystyr a roddir i “EEA firm” o’r math a grybwyllir ym mharagraff 5(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno([12]), sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o’r Atodlen honno([13]) (o ganlyniad i fod yn gymwys am awdurdodiad o dan baragraff 12 o’r Atodlen honno([14])) i dderbyn adneuon neu arian ad-daladwy arall gan y cyhoedd; neu

(c)     person nad oes arno angen caniatâd o dan y Ddeddf honno i dderbyn adneuon, yng nghwrs busnes y person hwnnw yn y Deyrnas Unedig;

mae “credyd” (“credit”) yn cynnwys benthyciad ariannol neu unrhyw ffurf o ymgymhwysiad ariannol, gan gynnwys newid siec am arian;

mae i “partner” yr ystyr a roddir i “partner” yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig;

mae i “teulu” yr ystyr a roddir i “family” yn rheoliad 6 o’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig;

ystyr “yswiriwr” (“insurer”) yw—

(a)     person sydd â chaniatâd o dan Ran 4 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i lunio neu gyflawni contractau yswiriant; neu

(b)     ffyrm AEE, yn yr ystyr a roddir i “EEA firm” o’r math a grybwyllir ym mharagraff 5(d) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno([15]), sydd â chaniatâd o dan baragraff 15 o’r Atodlen honno (o ganlyniad i fod yn gymwys am awdurdodiad o dan baragraff 12 o’r Atodlen honno) i lunio neu gyflawni contractau yswiriant.

(12) Rhaid darllen y diffiniadau o “banc” ac “yswiriwr” ym mharagraff (11) ar y cyd ag—

(a)     adran 22 o Ddeddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000;

(b)     unrhyw orchymyn perthnasol o dan yr adran honno; ac

(c)     Atodlen 2 i’r Ddeddf honno.

Pŵer i wneud caniatáu mynediad electronig at wybodaeth yn ofynnol

5.(1)(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), caiff awdurdod bilio, yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (2), ei gwneud yn ofynnol bod person sy’n dod o fewn rheoliad 4(4) yn ymuno mewn trefniadau a fydd yn caniatáu i swyddog awdurdodedig gael mynediad at gofnodion electronig a gedwir gan y person hwnnw.

(2) Yr amgylchiadau yw bod—

(a)     y person sy’n dod o fewn rheoliad 4(4) yn cadw cofnodion electronig;

(b)     y cofnodion yn cynnwys, neu’n debygol o gynnwys, o bryd i’w gilydd, wybodaeth am unrhyw fater sy’n berthnasol i’r diben a ddisgrifir yn rheoliad 3(6); ac

(c)     cyfleusterau yn bodoli y darperir mynediad electronig odanynt, neu y gellir darparu mynediad electronig odanynt, at y cofnodion hynny, gan y person hwnnw i bersonau eraill.

(3) Ni chaiff swyddog awdurdodedig geisio cael unrhyw wybodaeth yn unol â threfniadau yr ymunwyd ynddynt o dan baragraff (1) ac eithrio gwybodaeth—

(a)     sy’n ymwneud â pherson penodol; a

(b)     a allai fod yn destun unrhyw ofyniad y caniateir ei osod o dan reoliad 4.

(4) Y materion y caniateir eu cynnwys yn y trefniadau y ceir gwneud yn ofynnol bod person yn ymuno ynddynt o dan baragraff (1) yw—

(a)     gofynion ynghylch mynediad electronig i gofnodion, a roddir ar gael i swyddog awdurdodedig;

(b)     gofynion ynghylch cadw cofnodion o’r defnydd a wneir o’r trefniadau;

(c)     gofynion sy’n cyfyngu ar ddatgelu gwybodaeth o’r defnydd a wneir o’r trefniadau; a

(d)     pa bynnag fanylion cysylltiedig eraill a ystyrir yn briodol gan yr awdurdod dan sylw, mewn cysylltiad â chaniatáu i swyddog awdurdodedig gael mynediad i gofnodion.

(5) Mae gan swyddog awdurdodedig, y caniateir iddo gael mynediad yn unol ag unrhyw drefniadau yr ymunwyd ynddynt o dan baragraff (1), yr hawl i wneud copïau o unrhyw gofnodion sy’n cynnwys gwybodaeth sy’n dod o fewn paragraff (3), ac i gymryd dyfyniadau o’r cofnodion hynny.

Peri rhwystr neu beri i swyddog awdurdodedig oedi

6.—(1) Bydd person (P) yn euog o drosedd ac yn atebol, yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 3 ar y raddfa safonol, os yw P—

(a)      yn fwriadol yn peri i swyddog awdurdodedig oedi, neu’n ei rwystro wrth iddo arfer unrhyw bŵer o dan reoliad 4 neu 5;

(b)     yn gwrthod cydymffurfio, neu’n methu â chydymffurfio heb esgus rhesymol, ag unrhyw ofyniad o dan reoliad 5, neu â gofynion unrhyw drefniadau yr ymunwyd ynddynt yn unol â pharagraff (1) o’r rheoliad hwnnw; neu

(c)     yn gwrthod darparu, neu’n methu â darparu, heb esgus rhesymol, unrhyw wybodaeth neu unrhyw ddogfen pan ofynnir iddo wneud hynny o dan reoliad 4.

(2) Os collfarnwyd P o drosedd a oedd yn codi yn yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1)(b) neu (c), ac os yw P wedyn yn parhau i wrthod neu fethu â chydymffurfio felly ar ôl iddo gael ei gollfarnu, bydd P yn euog o drosedd bellach ac yn atebol, yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na £40 am bob diwrnod y parheir i droseddu felly.

Sylwadau ffug er mwyn cael gostyngiad

7. Bydd person (P) yn euog o drosedd ac, yn dilyn collfarn ddiannod, yn atebol i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol, neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau, os yw P, at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, boed hynny ar gyfer P ei hunan neu berson arall—

(a)      yn gwneud datganiad neu sylw y gŵyr P ei fod yn ffug; neu

(b)     yn darparu, neu yn ymwybodol yn peri neu’n caniatáu darparu, unrhyw ddogfen neu wybodaeth y gŵyr P ei bod yn ffug.

Methiant i hysbysu ynghylch newid mewn amgylchiadau

8.(1)(1) Bydd person (P) yn euog o drosedd—

(a)     os digwyddodd newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawl P i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad;

(b)     os yw’n ofynnol bod P yn hysbysu’r awdurdod o’r newid hwnnw, o dan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn;

(c)     os yw P yn gwybod bod y newid yn effeithio ar ei hawl i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad; a

(d)     os yw P yn methu â rhoi hysbysiad prydlon o’r newid hwnnw yn y modd sy’n ofynnol gan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn.

(2)  Bydd person (P) yn euog o drosedd—

(a)     os digwyddodd newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawl person arall (A) i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad;

(b)     os yw’n ofynnol bod A yn hysbysu’r awdurdod o’r newid hwnnw, o dan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn;

(c)     os yw P yn gwybod bod y newid yn effeithio ar hawl A i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth Gyngor neu ar hawl A i swm y cyfryw ostyngiad; a

(d)     os yw P yn peri, neu’n caniatáu, i A fethu â rhoi hysbysiad prydlon o’r newid hwnnw yn y modd sy’n ofynnol gan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), at ddibenion paragraffau (1) a (2), mae hysbysiad o newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y digwyddodd y newid, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4) Os yw newid yn digwydd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd hysbysiad o’r newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5) Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn atebol, yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 4 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na 3 mis, neu’r ddau.

Sylwadau anonest er mwyn cael gostyngiad

9.—(1) Bydd person (P) yn euog o drosedd os yw P, at y diben o gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, boed hynny ar gyfer P ei hunan neu berson arall, yn anonest—

(a)     yn gwneud datganiad neu sylw ffug; neu

(b)     yn darparu, neu’n peri neu’n caniatáu darparu, unrhyw ddogfen neu wybodaeth sy’n ffug mewn manylyn o bwys.

(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn atebol—

(a)     yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na 6 mis, neu’r ddau; neu

(b)     yn dilyn ei gollfarnu ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na saith mlynedd, neu i’w ddirwyo, neu’r ddau.

Methiant anonest i hysbysu ynghylch newid mewn amgylchiadau

10.(1)(1) Bydd person (P) yn euog o drosedd—

(a)     os digwyddodd newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawl P i gael gostyngiad o dan gynllun awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad;

(b)     os yw’n ofynnol bod P yn hysbysu’r awdurdod o’r newid hwnnw, o dan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn;

(c)     os yw P yn gwybod bod y newid yn effeithio ar ei hawl i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad; a

(d)     os yw P, yn anonest, yn methu â rhoi hysbysiad prydlon o’r newid hwnnw yn y modd sy’n ofynnol gan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn.

(2)  Bydd person (P) yn euog o drosedd—

(a)     os digwyddodd newid yn yr amgylchiadau sy’n effeithio ar hawl person arall (A) i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, neu ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad;

(b)     os yw’n ofynnol bod A yn hysbysu’r awdurdod o’r newid hwnnw, o dan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn;

(c)     os yw P yn gwybod bod y newid yn effeithio ar hawl A i gael gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth Gyngor neu ar hawl A i swm y cyfryw ostyngiad; a

(d)     os yw P, yn anonest, yn peri neu’n caniatáu, i A fethu â rhoi hysbysiad prydlon o’r newid hwnnw yn y modd sy’n ofynnol gan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), at ddibenion paragraffau (1) a (2), mae hysbysiad o newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y digwyddodd y newid, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4) Os yw newid yn digwydd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd hysbysiad o’r newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5) Bydd person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn atebol—

(a)     yn dilyn collfarn ddiannod, i ddirwy na fydd yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu ei garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na 6 mis, neu’r ddau; neu

(b)     yn dilyn ei gollfarnu ar dditiad, i’w garcharu am gyfnod na fydd yn hwy na saith mlynedd, neu i’w ddirwyo, neu’r ddau.

Troseddau gan gyrff corfforaethol

11.(1)(1) Os profir bod trosedd o dan y Rheoliadau hyn, a gyflawnwyd gan gorff corfforaethol, wedi ei chyflawni gyda chydsyniad neu ymoddefiad cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall y corff corfforaethol, neu unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu mewn unrhyw swydd o’r fath, neu os profir bod y drosedd i’w phriodoli i unrhyw esgeulustod ar ran swyddog neu berson o’r fath, bydd y cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog cyffelyb arall hwnnw, yn ogystal â’r corff corfforaethol, yn euog o’r drosedd honno, ac yn atebol i’w erlyn yn unol â hynny.

(2) Os rheolir busnes corff corfforaethol gan ei aelodau, bydd paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gweithredoedd ac anweithiau aelod, mewn cysylltiad â swyddogaethau’r aelod hwnnw o reoli, fel pe bai’r aelod yn gyfarwyddwr y corff corfforaethol.

Achosion cyfreithiol

12.(1)(1) Ceir cychwyn achos cyfreithiol a ddygir am drosedd o dan y Rheoliadau hyn ar unrhyw adeg o fewn cyfnod o 3 mis o’r dyddiad y daw tystiolaeth yn hysbys i’r erlynydd, sy’n ddigonol ym marn yr erlynydd i gyfiawnhau erlyn am y drosedd, neu o fewn cyfnod o 12 mis ar ôl cyflawni’r drosedd, pa gyfnod bynnag ddaw i ben ddiwethaf.

(2) At ddibenion paragraff (1), bydd tystysgrif gan yr erlynydd, ynglŷn â’r dyddiad y daeth y cyfryw dystiolaeth a grybwyllir yn y paragraff hwnnw yn hysbys i’r erlynydd, yn dystiolaeth derfynol o’r dyddiad hwnnw.

(3) Nid yw paragraff (1) yn gosod unrhyw gyfyngiad ar yr adeg y ceir cychwyn achos cyfreithiol am drosedd o dan reoliad 9 neu 10.

Cosb yn hytrach nag erlyn (gostyngiad gormodol)

13.—(1) Caiff awdurdod bilio roi i berson (P) hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan reoliad 15 ac sy’n datgan y gwahoddir P i gytuno i dalu cosb, os yw rhwymedigaeth P i dalu treth gyngor mewn perthynas ag annedd drethadwy wedi ei gostwng o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, ac os yw’n ymddangos i’r awdurdod—

(a)     bod swm y gostyngiad o dan y cynllun yn rhwymedigaeth P i dalu’r dreth gyngor yn fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan P i’w gael o dan y cynllun (“gostyngiad gormodol”);

(b)     bod dyfarnu’r gostyngiad gormodol i’w briodoli i weithred neu anwaith ar ran P; ac

(c)     bod sail ar gyfer cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn P am drosedd (o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall) mewn perthynas â dyfarnu’r gostyngiad gormodol.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), swm y gosb yw 50% o swm y gostyngiad gormodol (wedi ei dalfyrru i lawr i’r geiniog gyfan agosaf), yn ddarostyngedig i—

(a)     lleiafswm o £100; a

(b)     uchafswm o £1000.

(3) At ddiben paragraff (2), rhaid cyfrifo’r gostyngiad gormodol ar sail ddyddiol, gan gychwyn gyda’r diwrnod cyntaf y dyfarnwyd y gostyngiad gormodol mewn perthynas ag ef, a therfynu gyda’r diwrnod y daeth yr awdurdod i wybod, neu y dylai’r awdurdod yn rhesymol fod yn gwybod, bod gostyngiad gormodol wedi ei ddyfarnu.

(4)  Os yw P yn cytuno i dalu’r gosb a bennir mewn hysbysiad ysgrifenedig yn y modd a bennir felly—

(a)     bydd swm y gosb yn adenilladwy gan yr awdurdod; a

(b)     rhaid peidio â dwyn achos yn erbyn P am drosedd (o dan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall) mewn perthynas â’r gostyngiad gormodol.

(5) Caiff P dynnu’n ôl ei gytundeb i dalu’r gosb a bennir mewn hysbysiad ysgrifenedig, drwy hysbysu’r awdurdod bilio, yn y modd a bennir gan yr awdurdod, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 14 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y cytunodd P i’w thalu.

(6) Pan fo P, o dan baragraff (5), wedi tynnu’n ôl y cytundeb—

(a)     rhaid ad-dalu pa bynnag gyfran o’r gosb a adenillwyd eisoes; a

(b)     ni fydd paragraff (4) yn gymwys.

(7) Os penderfynir yn ddiweddarach, wedi i P gytuno i dalu’r gosb, nad oedd gostyngiad gormodol wedi ei ddyfarnu, rhaid diddymu’r gosb ac ad-dalu pa bynnag gyfran o’r gosb a oedd eisoes wedi’i hadennill.

(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), os newidir swm y gostyngiad gormodol wedi i P gytuno i dalu’r gosb—

(a)     rhaid ad-dalu pa bynnag gyfran o’r gosb sydd eisoes wedi ei hadennill; a

(b)     ni fydd paragraff (4) yn gymwys bellach o ganlyniad i’r cytundeb.

(9) Os gwneir cytundeb newydd o dan baragraff (1) mewn perthynas â’r gostyngiad gormodol diwygiedig, yna, yn hytrach nag ad-dalu’r swm a adenillwyd eisoes fel cosb, ceir trin y swm  hwnnw, i’r graddau nad yw’n fwy na swm y gosb newydd, fel pe bai wedi ei adennill o dan y cytundeb newydd.

Cosb yn hytrach nag erlyn (gweithredoedd neu anweithiau)

14.—(1) Caiff awdurdod bilio roi i berson (P) hysbysiad ysgrifenedig sy’n datgan y gwahoddir P i gytuno i dalu cosb, os yw’n ymddangos i’r awdurdod bilio—

(a)     bod sail ar gyfer cychwyn achos cyfreithiol yn erbyn P am drosedd (o dan y Rheoliadau hyn neu unrhyw ddeddfiad arall) mewn perthynas â gweithred neu anwaith ar ran P mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; a

(b)     y gallai’r weithred neu’r anwaith fod wedi arwain at ostyngiad yn swm y dreth gyngor yr oedd P yn atebol i’w dalu o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, a fyddai’n fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan P i’w gael o dan y cynllun.

(2) Swm y gosb yw £100.

(3)  Os yw P yn cytuno i dalu’r gosb a bennir mewn hysbysiad ysgrifenedig yn y modd a bennir felly—

(a)     bydd swm y gosb yn adenilladwy gan yr awdurdod; a

(b)     rhaid peidio â dwyn achos yn erbyn P am drosedd (o dan y Rheoliadau hyn nac unrhyw ddeddfiad arall) mewn perthynas â’r weithred neu’r anwaith.

(4)  Caiff P dynnu’n ôl ei gytundeb i dalu’r gosb a bennir mewn hysbysiad ysgrifenedig, drwy hysbysu’r awdurdod bilio, yn y modd a bennir gan yr awdurdod, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod o 14 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y cytunodd P i’w thalu.

(5) Pan fo P, o dan baragraff (4), wedi tynnu’n ôl y cytundeb—

(a)     rhaid ad-dalu pa bynnag gyfran o’r gosb sydd eisoes wedi ei hadennill; a

(b)     ni fydd paragraff (3) yn gymwys.

Hysbysiadau

15. Rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliadau 13 a 14 gynnwys yr wybodaeth ganlynol—

(a)     y modd y mae’r awdurdod bilio yn pennu y caiff P—

                           (i)    cytuno i dalu cosb;

                         (ii)    hysbysu ynghylch tynnu’n ôl gytundeb P i dalu cosb;

(b)     bod rhaid i P, os yw’n dymuno tynnu’n ôl ei gytundeb, hysbysu’r awdurdod bilio ynghylch tynnu’r cytundeb yn ôl, o fewn 14 diwrnod (sy’n cynnwys  y dyddiad y cytunodd);

(c)     os tynnir y cytundeb yn ôl, yr ad-delir pa bynnag gyfran o’r gosb sydd eisoes wedi ei hadennill ac na fydd gan P wedyn imiwnedd rhag ei erlyn am drosedd;

(d)     nad yw talu cosb yn rhoi i P imiwnedd rhag ei erlyn mewn perthynas ag unrhyw ostyngiad gormodol arall, neu (mewn achos y cyfeirir ato yn rheoliad 14) unrhyw weithred neu anwaith arall;

(e)     os yw P yn honni nad oes pŵer, yn yr achos dan sylw i osod cosb o’r swm a osodwyd, y caiff P apelio i dribiwnlys prisio o dan baragraff 3(4) o Atodlen 3 i Ddeddf 1992([16]) yn erbyn gosod y gosb;

(f)      mewn achos y cyfeirir ato yn rheoliad 13—

                           (i)    os bydd P yn talu’r gosb a bennir yn yr hysbysiad ysgrifenedig, yn y modd a bennir yn yr hysbysiad ysgrifenedig, ni ddygir achos o’r math y cyfeirir ato yn rheoliad 13(1)(c) yn erbyn P;

                         (ii)    bod y gosb yn ymwneud yn unig â dyfarnu, o dan gynllun yr awdurdod bilio ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, gostyngiad a oedd y fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan y person i’w gael o dan y cynllun;

                       (iii)    nad yw’r gosb yn gymwys ac eithrio pan yw’n ymddangos i’r awdurdod bilio fod dyfarnu’r gostyngiad gormodol i’w briodoli i weithred neu anwaith gan P, a bod sail ar gyfer dwyn achos am drosedd mewn perthynas â’r gostyngiad gormodol;

                        (iv)    mai’r gosb yw 50% o swm y gostyngiad gormodol (yn ddarostyngedig i’r isafswm a’r uchafswm a nodir yn rheoliad 13(2));

                          (v)    bod y gosb yn daladwy yn ychwanegol at ad-dalu’r gostyngiad gormodol;

                        (vi)    y dull a ddefnyddir i adennill y gostyngiad gormodol;

                      (vii)    os penderfynir yn ddiweddarach nad oedd y gostyngiad a ddyfarnwyd yn ormodol, ad-delir pa bynnag gyfran o’r gosb a fydd eisoes wedi ei hadennill;

                    (viii)    os bydd yr awdurdod bilio yn newid swm y gostyngiad gormodol, yna, ac eithrio i’r graddau y’i cynhwysir mewn unrhyw gytundeb newydd i dalu’r gosb ddiwygiedig, ad-delir pa bynnag gyfran o’r gosb a fydd eisoes wedi ei hadennill, ac ni fydd gan P wedyn imiwnedd rhag ei erlyn am drosedd;

(g)     mewn achos y cyfeirir ato yn rheoliad 14—

                           (i)    os bydd P yn talu’r gosb a bennir yn yr hysbysiad ysgrifenedig, yn y modd a bennir yn yr hysbysiad ysgrifenedig, ni ddygir achos o’r math y cyfeirir ato yn rheoliad 14(1)(a) yn erbyn P;

                         (ii)    nad yw’r gosb yn gymwys ac eithrio pan yw’n ymddangos i’r awdurdod bilio—

(aa)        bod sail dros ddwyn achos yn erbyn P am drosedd sy’n ymwneud â gweithred neu anwaith ar ran P mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor; a

(bb)       y gallai’r weithred neu’r anwaith fod wedi arwain at ostyngiad yn swm y dreth gyngor yr oedd P yn atebol i’w dalu o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor, a fyddai’n fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan P i’w gael o dan y cynllun;

                       (iii)    mai’r gosb yw £100; a

                        (iv)    y dull a ddefnyddir i adennill y gosb.

Cosbau am ddatganiadau anghywir

16.(1)(1) Caiff awdurdod bilio osod cosb o £70 ar berson (P)—

(a)     os yw P, drwy esgeulustod, yn gwneud datganiad neu sylw anghywir, neu drwy esgeulustod yn rhoi gwybodaeth neu dystiolaeth anghywir

                           (i)    mewn cais neu mewn cysylltiad â chais; neu

                         (ii)    mewn cysylltiad â dyfarnu gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor;

(b)     os yw P wedi methu â chymryd camau rhesymol i gywiro’r gwall;

(c)     os yw’r gwall wedi arwain at ddyfarnu gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor sy’n fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan P i’w gael (“gostyngiad gormodol”); a

(d)     os nad yw P wedi ei gyhuddo o drosedd nac wedi cael rhybuddiad, ac na roddwyd hysbysiad iddo o dan reoliadau 13 i 15 mewn perthynas â’r gostyngiad gormodol.

(2) Ni cheir gosod cosb o dan y rheoliad hwn mewn perthynas ag unrhyw weithred neu anwaith sy’n digwydd cyn y diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.

(3) Rhaid talu unrhyw gosb o dan y rheoliad hwn i’r awdurdod sy’n gosod y gosb.

(4) Caiff awdurdod ddiddymu unrhyw gosb a osodwyd ganddo o dan y rheoliad hwn.

Cosbau am fethiant i hysbysu ynghylch newid amgylchiadau

17.(1)(1) Caiff awdurdod bilio osod cosb o £70 ar berson (P)—

(a)     os yw P, heb esgus rhesymol, wedi methu â rhoi hysbysiad prydlon i’r awdurdod o newid perthnasol yn yr amgylchiadau yn unol â’r gofynion a osodir ar P o dan y ddarpariaeth a gynhwysir yng nghynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, yn rhinwedd paragraff 7 o Atodlen 13 i’r Rheoliadau Gofynion Rhagnodedig neu o dan baragraff 113 o’r Cynllun Diofyn;

(b)     os yw’r methiant hwnnw yn arwain at ddyfarnu gostyngiad o dan gynllun gostyngiadau’r dreth gyngor sy’n fwy na swm y gostyngiad yr oedd hawl gan P i’w gael (“gostyngiad gormodol”); ac

(c)     os nad yw P wedi ei gyhuddo o drosedd nac wedi cael rhybuddiad, ac na roddwyd hysbysiad iddo o dan reoliadau 13 i 15 mewn perthynas â’r gostyngiad gormodol.

(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “newid perthnasol yn yr amgylchiadau” (“relevant change of circumstances”), mewn perthynas â P, yw newid mewn amgylchiadau y gellid yn rhesymol ddisgwyl y byddai P yn gwybod y gallent effeithio ar hawl P i gael gostyngiad o dan gynllun yr awdurdod ar gyfer gostyngiadau’r dreth gyngor, neu y gallent effeithio ar ei hawl i swm y cyfryw ostyngiad.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), at ddibenion paragraff (1)(a), mae hysbysiad o newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y digwyddodd y newid, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(4) Os yw newid yn digwydd cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, bydd hysbysiad o’r newid yn brydlon os rhoddir yr hysbysiad o fewn cyfnod o 21 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym, neu cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r newid ddigwydd, pa un bynnag yw’r diweddaraf.

(5) Rhaid talu unrhyw gosb o dan y rheoliad hwn i’r awdurdod sy’n gosod y gosb.

(6) Caiff awdurdod ddiddymu unrhyw gosb a osodir ganddo o dan y rheoliad hwn.

 

 

 

Enw

Y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, un o Weinidogion Cymru

Dyddiad



([1])           1992 p.14; mewnosodwyd adrannau 14A, 14B a 14C gan adran 14 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17); diwygiwyd is-adrannau (1) a (2) o adran 113 gan adran 127 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26) a pharagraffau 40 a 52 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno, ac adran 80 o Ddeddf Lleoliaeth 2011 (p.20).

([2])           O.S. 2012/3145 (Cy. 317).

([3])           1992 p.4.

([4])           O.S. 2012/3144 (Cy. 316).

([5])           O.S. 1996/1880 fel y’i diwygiwyd gan O.S. 2013/ .

([6])           1989 p.42. Gwnaed diwygiadau i adran 4 ond nid ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([7])           1972 p.65.

([8])           1986 p.44.

([9])           Mewnosodwyd adran 7A gan adran 6(1) o Ddeddf Nwy 1995 (p.45). Diwygiwyd is-adran (1) yn ddiweddarach gan adran 3(2) o Ddeddf Cyfleustodau 2000 (p.27).

([10])         1989 p.29.

([11])         2000 p.8.

([12])         Amnewidiwyd is-baragraff (b) gan reoliad 29 o O.S. 2006/3221 a pharagraff 2 o Atodlen 3 i’r offeryn hwnnw.

([13])         Diwygiwyd is-baragraff (1) o baragraff 15 gan O.S. 2007/3253. Nid yw’r diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 15 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([14])         Mewnosodwyd is-baragraff (9) o baragraff 12 gan O.S. 2012/1906. Nid yw diwygiadau eraill a wnaed i baragraff 12 yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.

([15])         Diwygiwyd is-baragraff (d) gan reoliad 6 o O.S. 2004/3379.

([16])         1992 p.14; mewnosodwyd is-baragraff (4) gan adran 14 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 2012 (p.17).